Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd cyfarpar diogelu personol o stoc pandemig y wlad ar gael i staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd sy’n ymdrin â chleifion y coronafeirws.
Yn ogystal, bydd mygydau, menig a ffedogau hefyd yn cael eu dosbarthu i bob un o’r 640 o glinigau meddygon teulu, a’r 40 o wasanaethau meddygon teulu allan o oriau yng Nghymru.
“Mae cyfarpar diogelu personol o’r stoc pandemig wedi cael ei ryddhau i’r Gwasanaeth Iechyd ac i’r sector gofal cymdeithasol i atgyfnerthu llwybrau cyflenwi rheolaidd y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi dod o dan bwysau sylweddol,” meddai Vaughan Gething.
“Rwyf wedi awdurdodi cynnydd sylweddol o Gyfarpar Diogelu Personol i’r saith Bwrdd Iechyd, i’r gwasanaeth ambiwlans Cymru ac i Felindre.”
Diogeli fferyllfeydd
Dywedodd Vaughan Gething y bydd pob un o’r 715 fferyllfa yng Nghymru hefyd yn derbyn yr offer yma.
“Yn aml, fferyllfeydd yw’r pwynt cyswllt cyntaf i bobl sy’n chwilio am gyngor ar driniaethau cyn mynd at eu meddyg teulu,” meddai.
“Roedd hi’n hanfodol ein bod yn cymryd camau i ddiogelu’r gweithwyr gofal iechyd rheng flaen allweddol hyn sy’n delio bob dydd â phobl a allai fod yn sâl.”
Amserlen ailgyflenwi yn ansicr
Yn ôl Vaughan Gething, mae’r amserlen ailgyflenwi cyfarpar diogelu personol yn “ansicr”.
“Rhaid i ni ddefnyddio’r stoc sydd gennym yn effeithlon ac yn briodol nes bod ailgyflenwadau yn dod yn fwy sicr,” meddai.