Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cadarnhau bod trydydd claf wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru.

Roedd gan y claf, oedd yn 71 mlwydd oed, broblemau iechyd eisoes ac roedd yn cael ei drin yn Ysbyty Tywysog Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

“Mae’n ddrwg iawn gennyf gadarnhau’r newyddion trist bod trydydd claf yng Nghymru a oedd wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19 wedi marw,” meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton.

“Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau’r unigolyn a gofynnaf i’w dymuniad nhw am breifatrwydd gael ei barchu.”