Mae capel yng Nghaerfyrddin wedi penderfynu cynnal oedfaon dros y we er mwyn goresgyn heriau’r coronafeirws.

Gan fod y cyhoedd wedi’u cynghori rhag peidio ag ymgynnull – a hynny, am y gallan nhw drosglwyddo’r haint – mae adeilad Capel y Priordy wedi cau ei drysau am y tro.

Ond dyw hynny ddim wedi rhwystro’r eglwys rhag parhau â’i oedfaon, ac o dydd Sul ymlaen mi fyddan nhw’n cael ei darlledu dros Facebook.

Y Gweinidog Beti Wyn James fydd yn gyfrifol am hynny, ac mae hithau’n dweud ei bod yn barod am yr her.

“Mae ‘mysedd wedi’u croesi,” meddai wrth golwg360. “Gobeithio y bydd popeth yn gweithio’n iawn! Dw i’n siŵr bydd e! Does dim byd cymhleth ynglŷn â’r dechnoleg…

“Does dim cysylltiad i’r we gyda fi yn y Capel. Ond dw i’n gobeithio gwneud e’ gyda 4G. Gobeithio bydd digon o ddata gyda fi. Dw i wedi gwneud fy ngwaith cartref!”

Cryno ddisgiau

Er bod hi’n “syndod faint o bobol hŷn sydd ar y gwefannau” mae’n cydnabod na fydd pawb yn medru manteisio, ac mae’n egluro bod ganddi ateb i’r broblem hynny.

“Dw i eisoes wedi ei recordio hi,” meddai. “Mae’n barod i fynd mas ar e-bost i ryw dros gant o’n haelodau ni.

“Rydym hefyd wedi’i dodi ar gryno ddisgiau heddiw ar gyfer y bobol sydd â ddim cysylltiad â’r we o gwbl.

“Felly rydym yn anelu at gael yr oedfa mas mewn tair ffordd wahanol ar fore dydd Sul i [oresgyn] cyfyngiadau pob aelod o’r eglwys.”

Mae Beti Wyn James yn gweithio â thair eglwys i gyd – Y Priordy, Cana, a Bancyfelin – ac mae’n gobeithio y bydd y pob un yn medru elwa o’r drefn newydd.

Rhwydwaith

Hyd yma mae sawl grŵp cymunedol a chrefyddol wedi sefydlu rhwydweithiau i helpu’r rheiny sy’n hunan-ynysu, a dyw eglwys Capel y Priordy ddim yn eithriad.

Cafodd rhwydwaith i helpu aelodau ei sefydlu dros wythnos yn ôl, a bellach mae yna dîm deg aelod sydd yn gofalu am ryw bedwar person yr un.

“Mae pobol yn gallu bod yn fwy unig mewn tref nag mas yn y wlad a bod yn onest,” meddai.

“Er bod nhw’n byw yng nghanol tref mae lot o’n haelodau hŷn â phlant sydd yn byw i ffwrdd. Ac felly mae yna rwydwaith gofal.”