Mae teulu lleol wedi lansio ymgyrch codi arian i ddangos undod gyda thîm yr Uned Gofal Dwys yn Ward Cybi, Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Maen nhw’n ceisio annog eraill i helpu i sicrhau y bydd gan staff y Gwasanaeth yng Ngwynedd ac Ynys Môn bopeth sydd ei angen arnynt i ofalu am y mwyaf bregus yn yr ardal sy’n cael eu heffeithio gan coronafeirws.

Y nod yw codi arian ar gyfer offer ac eitemau ychwanegol ar gyfer staff Ysbyty Gwynedd.

Mae Paola Dyboski-Bryant a’i theulu wedi gwneud apêl i gymunedau lleol i ddod at ei gilydd a rhoi’r hyn maent yn gallu mewn ymgais i wneud rhywbeth cadarnhaol.

“Aros yn bositif”

“Wrth i’r coronafeirws ddod yn fwy amlwg yn ein cymunedau rwy’n pryderu, ond rwy’n benderfynol o aros yn bositif,” meddai Paola Dyboski-Bryant, sy’n wreiddiol o’r Eidal ond bellach yn byw yn Clwt y Bont, ger Bangor.

“Bydd y rhan fwyaf ohonom sy’n cael y firws yn profi symptomau ysgafn iawn, ond i lawer bydd yn fwy difrifol.

“Naill ai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, bydd angen help ein staff NHS a staff meddygol anhygoel ar lawer ohonom.”

Bydd yr arian sy’n cael ei godi trwy Trechwn gyda’n gilydd yn mynd yn syth i gronfa Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd.

Mae’r teulu wedi egluro na fydd yr arian sy’n cael ei godi yn cael ei ddefnyddio yn lle arian statudol.

Bydd yr holl roddion yn cael eu defnyddio i ariannu eitemau ychwanegol sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei ddarparu.