Mae Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, yn Aberystwyth, ar gau heddiw oherwydd y coronafeirws.

Cadarnhaodd yr ysgol wrth golwg360 fod y dewis i gau’r ysgol wedi cael ei wneud er mwyn glanhau’r adeilad heddiw fel mesur diogelwch.

“Fel mesur rhagofalus, penderfynwyd cau ysgol Penweddig heddiw er mwyn gwneud gwaith glanhau ychwanegol,” meddai Cyngor Sir Ceredgion mewn datganiad.

“Daw hyn ar ôl i aelod o staff ddatblygu symptomau coronafeirws.

“Bydd yr ysgol yn ailagor bore fory.”

Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi galw ar ysgolion i gau’n swyddogol eto.