Mae adroddiadau bod ysgolion ledled Cymru’n paratoi ar gyfer y posibilrwydd o orfod cau eu drysau yn sgil Coronafeirws yn yr wythnosau i ddod.

Fe allai athrawon orfod dygymod â gwahanol fathau o dechnoleg er mwyn dysgu plant o bell pe na bai’n bosib cyflwyno gwersi wyneb yn wyneb.

Ond mae’n ymddangos bod athrawon yn y tywyllwch ynghylch pryd y gallai’r fath fesurau ddod i rym.

Mae golwg360 wedi clywed gan athrawon mewn nifer o ysgolion fod disgwyl cyfarfodydd ddechrau’r wythnos hon i drafod eu cynlluniau.

Mae un athro yn sir Torfaen yn dweud bod “cyfarfod yn cael ei gynnal” yfory (dydd Llun, Mawrth 16) i drafod defnyddio Google Classroom”, a sicrhau y gall athrawon fewngofnodi i’r rhaglen yn eu cartrefi.

“Heb dderbyn unrhyw gyfarwyddyd i baratoi gwaith na pharatoi i weithio / geisio dysgu o bell,” meddai athrawes yn Rhondda Cynon Tâf, gan godi amheuon am adroddiadau blaenorol yn y wasg.

Mae athro yn yr un sir yn dweud bod cyfafod wedi’i gynnal ganol yr wythnos ddiwethaf, a bod athrawon wedi cael cais i ddechrau paratoi gwaith i’w lwytho i’r we ac i baratoi gwaith ar gyfer disgyblion sydd eisoes yn ynysu eu hunain.

Cynlluniau honedig Llywodraeth Cymru

Yn ôl adroddiadau, gallai ysgolion orfod cau am hyd at dri mis yng Nghymru er mwyn atal y firws rhag ymledu a lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Mae lle i gredu bod rhai ysgolion eisoes wedi dechrau trafod cynlluniau wrth gefn, gydag athrawon dan bwysau i baratoi gwersi ar-lein ar gyfer plant sy’n ynysu eu hunain.

Mae gofyn hefyd i ysgolion ohirio unrhyw ddigwyddiadau sy’n debygol o ddenu torfeydd mawr, yn unol â dymuniadau Llywodraeth Prydain a chynlluniau tebyg mewn gwledydd eraill yn Ewrop.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams nad oes @rheswm gwyddonol” dros gau ysgolion ar hyn o bryd, ond y dylid paratoi rhag ofn y bydd yn digwydd yn y pen draw.

‘Rhai dewisiadau amhoblogaidd’

Daw sylwadau’r athrawon wrth i Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, awgrymu wrth raglen ‘Sunday Supplement’ ar BBC Radio Wales y bydd Llywodraeth Cymru’n gorfod gwneud “rhai dewisiadau amhoblogaidd yn yr wythnosau i ddod”.

Ond mae’n dweud nad oes cynlluniau “i gau ysgolion yfory”, ac mai dim ond os yw’n “fesur angenrheidiol” y bydd yn digwydd o gwbl.

Pe bai ysgolion yn cau ar unwaith, meddai, byddai rhieni’n wynebu’r posibilrwydd o orfod mynd â’u plant at eu neiniau a’u teidiau yn ystod y dydd, a hynny wrth i Lywodraeth Prydain baratoi i gyhoeddi y gallai pobol dros 70 oed orfod ynysu eu hunain am hyd at bedwar mis.