Mae swyddogion yr RSPCA yn ceisio dod o hyd i berchennog ci a gafodd ei ddarganfod ar fynydd Pen y Fan yn ddiweddar.

Cafwyd hyd i’r ci potsiwr benywaidd ryw bythefnos yn ôl, ond does dim golwg o’i pherchennog.

Roedd gan swyddogion bryderon am gyflwr y ci ar y dechrau, ond mae hi’n iach erbyn hyn ond does ganddi ddim microsglodyn, sy’n anghyfreithlon ac yn hanfodol wrth geisio dychwelyd cŵn i’w perchnogion.

Mae’r elusen yn gofyn i bobol ffonio 0300 123 8018 os oes ganddyn nhw wybodaeth am y ci.