Fydd darlithwyr ym Mhrifysgol Abertawe ddim yn cyflwyno darlithoedd na seminarau wyneb yn wyneb o ddydd Llun, Mawrth 23 ymlaen.

Mae’r mesurau wedi’u cyhoeddi yn sgil ymlediad coronavirus, a byddan nhw mewn grym tan ddiwedd y semester ar Fai 1.

Bydd deunyddiau ar gael ar y wê yn y cyfamser, a bydd goruchwyliaeth o bell ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Ond bydd llyfrgelloedd a chyfleusterau addysgu a dysgu eraill yn aros ar agor yn ystod y cyfnod dan sylw, ynghyd â neuaddau preswyl ar y ddau gampws.

“Iechyd a lles cymuned y Brifysgol a’r gymuned ehangach sy’n bwysig i ni ar hyn o bryd, ac rydym yn cymryd y mesurau hyn fel cam rhagofalus er mwyn lleihau’r risg o achosion coronafeirws ar ein campysau,” meddai’r brifysgol mewn datganiad.