Mae dyn busnes o Wrecsam wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o chwarae “ping pong gwleidyddol” wrth ymateb i heriau coronafeirws.

Daw sylw Alex Jones, perchennog  bar The Bank, wedi i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi mesurau i helpu busnesau yn Lloegr.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn awyddus i helpu busnesau, a’i fod yn aros am arian – gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – er mwyn medru gwneud hynny.

Dyw’r esgus hynny ddim yn ddigon da ym marn y dyn busnes o ogledd Cymru.

“Oll maen nhw wedi ei wneud yw [ei drin] yn gêm o ping pong gwleidyddol: ‘Wnawn ni feio San Steffan. Wnawn ni feio Caerdydd’,” meddai. “Y busnesau yw’r rhai yn y canol.

“Mae Lloegr wedi dod allan a dweud y gwnawn nhw ddiddymu cyfraddau busnes ar gyfer busnesau  manwerthu, croeso, a hamdden sydd â gwerth is na £51,000.

Dylai bod Cymru’n cynnig yr un peth, fel bod gan fusnesau gyfle cyfartal. Pam ddylai busnesau yn Lloegr elwa tra bod busnesau yn dioddef yng Nghymru?”

Ymateb Mark Drakeford

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:

“Bydd yr holl gyllid fydd yn dod i Gymru o ganlyniad i’r cyhoeddiad am ardrethi annomestig yng Nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau Cymru.

“Rydyn ni eisiau cyflwyno pecyn cymorth cyn gynted â phosib i helpu busnesau i ddelio ag effaith y coronafeirws.

“Mae cynlluniau ar y gweill, ond mae disgwyl am gadarnhad gan Drysorlys y Deyrnas Unedig yn ein dal yn ôl.”

Pryderon am y dyfodol

Hyd yma mae 38 achos wedi’u cadarnhau yng Nghymru, ac mae un o’r achosion rheiny wedi’i gofnodi yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Alex Jones yn gofidio am y dyfodol.

“Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd os bydd y wlad yn mynd dan lockdown fel sydd wedi digwydd yn yr Eidal,” meddai. “Beth fydd yn digwydd? Dw i’n hunangyflogedig.

“Sut dw i’n mynd i dalu fy morgais? Mae’n dal gen i gyfrifoldebau. Mae’n dal yn rhaid i mi dalu staff.”

Mae hefyd yn dweud bod “panig” eisoes wedi dechrau cael effaith ar fusnesau Wrecsam, gan gynnwys ei fusnes yntau.

“Mae byrddau wedi cael eu canslo,” meddai. “Ac mae gan un o fy ffrindiau westy yn Wrecsam. Mae pobol wedi bod yn canslo ystafelloedd gydag yntau.

“Roedd yna bobol trin gwallt yma neithiwr yn yfed. Doedden nhw ddim o reidrwydd yn boddi’u gofidion ond mae 80% o’u busnes, yr wythnos hon, wedi’i ganslo.”