Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn galw am ohirio’r gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a’r Alban ddydd Sadwrn, ac am wahardd unrhyw dorfeydd mawr.

“Dylai unrhyw gyfarfodydd dan do o fwy na 100 o bobl a thorfeydd o 500 neu fwy yn yr awyr agored gael eu gohirio neu eu canslo ar unwaith,” meddai, gan ychwanegu y dylid hefyd ystyried cau ysgolion yn gynnar cyn gwyliau’r Pasg.

Daw ei alwad ar ôl i Brif Weinidog yr Alban gyhoeddi mesurau tebyg y bore yma.

Yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Nicola Sturgeon ei bod hi’n “amhriodol ein bod ni’n parhau fel yr arfer” a’u bod hi’n bwriadu gohirio torfeydd o dros 500 o bobl.

Bydd y rhain yn cael eu gohirio o ddydd Llun (Mawrth 16) ymlaen.

Wrth egluro’r meddylfryd tu ôl i’r penderfyniad, dywed: “Mae hwn yn benderfyniad rydym yn seilio ar hyblygrwydd ac nid yn unig camau sydd yn rhaid eu cymryd i rwystro’r firws rhag lledaenu.”

Dyw Llywodraeth yr Alban ddim yn awgrymu y dylai ysgolion a phrifysgolion gau ond dywed Nicola Sturgeon y bydd yn cael ei “adolygu’n gyson.”

Gyda’r cyhoeddiad diweddaraf ar y nifer o bobl sydd gan y firws yn yr Alban brynhawn ’ma, dywed Nicola Sturgeon ei bod hi’n disgwyl gweld “cynnydd sylweddol mewn achosion.”

Wrth ymateb, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Albanaidd, Jackson Carlaw: “Mae’n bosib y byddwn ni’n gweld tystiolaeth bellach o drosglwyddiad cymunedol o coronavirus.

“Mae hynny’n pwysleisio sefyllfa mor ddifrifol rydym yn ei wynebu.”