Bydd ymgyrchwyr yn ymgynnull fis nesaf i drafod ailagor y rheilffordd yng Ngwynedd rhwng Bangor ac Afon Wen ar gyrion Pwllheli.

Cyn i reilffyrdd ledled y Deyrnas Unedig gael eu torri yn yr 1960au, roedd modd teithio o Ben Llŷn i Arfon ar drenau, a bellach mae ymdrech yn mynd rhagddi i ailagor y rheilffyrdd hyn.

Mae Elfed Wyn Jones yn ymgyrchu ar ran grŵp Traws Link, ac mae wedi trefnu cyfarfod i drafod y posibiliad yn Y Galeri, Caernarfon, ar Ebrill 17.

Mae’n rhagweld y byddai’r cam yn well i’r amgylchedd, yn annog twristiaeth, ac mae’n ei ystyried yn gam tuag at ailsefydlu rhwydwaith cryf trwy “Gymru gyfan”.

“Gyda’r rheilffordd dw i’n gobeithio y bydd nid yn unig yn gyswllt i bobol leol, ond yn dod yn gyswllt cenedlaethol o fewn Cymru hefyd,” meddai wrth golwg360.

“A byddai’n gallu bod yn rhywbeth sy’n plethu mewn efo twristiaeth hefyd i wneud arian yn lleol.”

Trenau

Hyd at 1964 roedd rheilffordd Sir Gaernarfon yn cysylltu pentref Afon Wen â Chaernarfon, a hyd at yr 1970au modd teithio o’r dref honno at Fangor.

Mae Traws Link yn ymgyrchu tros ailsefydlu cysylltiadau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru, ac mae Elfed Wyn Jones yn gobeithio sefydlu cangen yng ngogledd Cymru.