Bydd yn rhaid i landlordiaid Cymru sicrhau bod eu heiddo sy’n cael ei rentu’n breifat yn bodloni safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol o Ebrill 1 ymlaen.
Mae eiddo domestig sy’n cael ei rentu’n breifat yng Nghymru yn cael eu rheoli gan y Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol.
Rhaid cael Tystysgrif Perfformiad Ynni gradd E neu uwch ar eiddo o’r fath i gydymffurfio â’r gyfraith.
Bydd landlordiaid sy’n gosod eiddo dan denantiaeth ddomestig am dymor byr, tymor hir neu denantiaeth dymor byr sicr yn cael eu heffeithio gan y newid.
Ers Ebrill 1, 2018, roedd yn ofynnol i gytundebau tenantiaeth a ddaeth i rym neu a gafodd eu hadnewyddu ar ôl y dyddiad hwnnw fodloni’r lefelau gofynnol newydd ar unwaith.
Mesurau newydd
O Ebrill 1 eleni, bydd y ddeddfwriaeth yn ymestyn i gynnwys tenantiaethau sydd eisoes yn bodoli.
Mae hyn yn golygu bod unrhyw eiddo rhent preifat nad yw’n bodloni’r gofynion sylfaenol yn anghyfreithlon, a gall y landlord gael dirwy o hyd at £5000, a bydd methu â bodloni’r safonau gofynnol yn peryglu trwydded y landlordiaid hefyd.
Mae Rhentu Doeth Cymru wedi bod yn gweithio i weld pa eiddo ar eu cronfa ddata sy’n methu bodloni’r safon ofynnol ar hyn o bryd.
Bydd landlordiaid eiddo sy’n methu cydymffurfio yn cael eu hatgoffa am eu dyletswydd i gydymffurfio, ac yn cael cynnig cymorth drwy eu cyfeirio at gynlluniau allai eu helpu.
“Rydyn ni am sicrhau bod cartrefi Cymru yn arbed ynni,” meddai Julie James, y Gweinidog Tai.
“Bydd y safonau newydd a gyflwynwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn sicrhau bod pobl sy’n rhentu cartrefi yng Nghymru yn manteisio ar gartrefi cynhesach, a fydd yn helpu i ostwng costau ynni ac yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd.”