Mae dau achos newydd o coronavirus yn Sir Benfro, yn ôl Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Dywed fod y ddau yn byw yn yr un tŷ, a’u bod nhw wedi dychwelyd o ogledd yr Eidal yn ddiweddar.
Maen nhw’n derbyn triniaeth mewn canolfan feddygol.
Mae pedwar o bobol yng Nghymru bellach wedi cael profion positif ar gyfer y firws, gyda’r ddau arall yn Abertawe a Chaerdydd.
“Mae’r holl fesurau priodol i ddarparu gofal ar gyfer yr unigolion ac i leihau’r risg o’i drosglwyddo i eraill yn cael eu cymryd,” meddai Dr Frank Atherton.
Mae’n dweud bod yr awdurdodau’n cymryd yr holl gamau posib i ymateb i’r sefyllfa.
Fydd dim rhagor o fanylion am y ddau unigolyn yn cael eu cyhoeddi, meddai.