Mae’n debygol y bydd prifysgolion Cymru a gweddill Prydain yn colli llawer o’u hincwm yn sgil derbyniadau llai o ffioedd dysgu myfyrwyr tramor o ganlyniad i’r coronafeirws.

Mae tua 120,000 o fyfyrwyr o Tsieina yn astudio ym Mhrydain ar hyn o bryd, a tha 6,500 ohonyn nhw ym mhrifysgolion Cymru. Maen nhw’n cyfrif am fwy na chwarter yr holl fyfyrwyr tramor yma.

Oherwydd y coronafeirws mae arholiadau, gan gynnwys profion iaith Saesneg sy’n angenrheidiol ar gyfer fisas a mynediad i brifysgolion, wedi cael eu canslo yn Tsieina, sy’n golygu y bydd myfyrwyr newydd yn gorfod gohirio eu ceisiadau.

Dywed prifysgolion hefyd fod myfyrwyr o Tsieina yn anhapus gydag ymateb llywodraeth Prydain i’r feirws, gyda rhai yn gofyn am gael eu ffioedd yn ôl a dychwelyd adref.

Gyda phrifysgolion Prydain yn derbyn cyfanswm o tua £2 biliwn o ffioedd dysgu gan fyfyrwyr o Tsieina, gallai cwymp bach mewn cofrestriadau gostio’n ddrud iawn iddyn nhw.

Roedd disgwyl i 90,000 o fyfyrwyr newydd o Tsieina, Hong Kong, De Corea a gwledydd eraill sydd wedi cael eu taro gan y feirws gychwyn mewn prifysgolion ym Mhrydain ym mis Medi. Y disgwyl bellach yw y bydd y nifer hwnnw’n lleihau’n sylweddol.

“Mae coronafeirws yn debygol o gael effaith sylweddol ar gylch mynediad myfyrwyr rhyngwladol gan gynnwys rhai o Tsieina,” meddai Vivienne Stern, cyfarwyddwr Universities UK International, y corff sy’n cynrychioli prifysgolion Prydain.

“Mae’r mesurau mae prifysgolion yn eu hystyried yn cynnwys mwy o gyrsiau ar-lein a gohirio dyddiadau cychwyn. Yn y cyfamser, rydym wrthi’n cyd-drafod â’r llywodraeth ar amrywiaeth o fatherion sy’n effeithio ar recriwtio myfyrwyr a’r cylch ceisiadau am fisa.”