Ar ddiwedd ei araith i Geidwadwyr Cymru ddoe, honnodd Boris Johnson mai cyfres Netflix sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghasnewydd, o’r enw ‘Sex Education’, yw’r sioe deledu fwyaf poblogaidd yn Sawdi Arabia.

Yn ôl y cynhyrchwyr, fodd bynnag, nid yw’r gyfres yn y wlad honno’n cyrraedd 10 uchaf Netflix ei hun hyd yn oed.

“Dw i am eich gadael gyda’r ystadegyn mwyaf syfrdanol dw i wedi’i glywed ers tro,” meddai Boris Johnson wrth y dorf yn Llangollen.

“Beth yw’r rhaglen deledu fwyaf poblogaidd yn Sawdi Arabia? Mi ddyweda i wrthoch chi. Sex Education yw ei henw gyfeillion, ac mae’n cael ei gwneud yng Nghasnewydd yng Ngwent.

“Alla i ddim meddwl am unrhyw ffaith ac iddi fwy o optimistiaeth am ddyfodol ein dynoliaeth a’n gallu i ddod at ei gilydd. Os yw pobl Sawdi Arabia yn ymateb i agwedd y Cymry at addysg rhyw, pwy all wrthsefyll?

“All Tehran fod ymhell ar ôl? Dyna sut mae Cymru’n helpu dod â’r ddynoliaeth at ei gilydd a thorri rhwystrau i lawr.”