Mae blaenoriaethau’r Ceidwadwyr Cymreig yn hollol anghywir, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.

Daw hyn yn dilyn araith arweinydd grŵp Seneddol y Ceidwadwyr Cymreig Paul Davies yng nghynhadlaeth y blaid yn Llangollen.

Yn yr araith, dywedodd Paul Davies ei fod o eisiau haneru’r nifer o weinidogion Cymreig yn Llywodraeth Cymru, o 14 lawr i saith.

Aeth ymlaen i ddweud ei fod am roi stop ar recriwtio gweision sifil a pheidio cynyddu cyllideb y corff sy’n rhedeg y Cynulliad.

“Byddwn ni ddim yn diddymu’r Cynulliad, ond mae’n rhaid i ni wrando mwy ar y sawl sydd eisiau,” meddai Paul Davies.

Ymateb Jane Dodds

“Tra mae pobl ar hyd a lled Cymru’n ceisio ail adeiladu eu bywydau yn dilyn y llifogydd, dewisodd Paul Davies ddefnyddio ei araith i hyrwyddo cynllun i roi Senedd y wlad hon dan anfantais,” meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds.

“Mae hyn yn profi bod eu blaenoriaethau yn hollol anghywir.”