Lleihau’r llywodraeth ond cynyddu cyllid iechyd – dyna mae Paul Davies wedi addo ei wneud pe bai’n dod yn Brif Weinidog ar Gymru.

Wrth annerch cynhadledd y Ceidwadwyr yn Llangollen, mi feirniadodd “bubble Bae Caerdydd” a’i “fiwrocratiaeth dew”, ac ymrwymodd i fynd i’r afael â hynny.

Pe bai’n dod i rym yn dilyn etholiad y Cynulliad 2021 dywedodd y byddai’n rhewi cyllid Comisiwn y Cynulliad, lleihau maint y cabinet, ac yn rhoi’r gorau i hyfforddi rhagor o weision sifil.

Mae’n wfftio’r honiad mai cam at wleidyddiaeth ‘Plaid Diddymu’r Cynulliad’ yw hyn, ac mae’n dadlau bod pobol Cymru eisiau llywodraeth lai yng Nghaerdydd.

“Beth dw i’n cynnig, dw i’n credu, ydy agenda bold,” meddai wrth golwg360, “agenda dw i’n credu sy’n medru taro nodyn â phobol Cymru.

“Mae pobol Cymru eisiau gweld llai o wleidyddion. Maen nhw eisiau gweld llywodraeth fach. [Ond] maen nhw [hefyd] eisiau sicrhau ein bod ni’n gwario’r arian ar ein gwasanaethau cyhoeddus.

“Dw i wedi gwneud yn eitha’ clir, dan lywodraeth Geidwadol fe fydden ni’n cynyddu cyllid y Gwasanaeth Iechyd bob blwyddyn.”

Yr araith

Roedd Paul Davies yn hynod feirniadol o Lywodraeth Llafur Cymru yn ei araith, ac mi bwysleisiodd mai nhw sydd wedi methu Cymru – nid datganoli.

Dywedodd bod Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cefnu ar “bleidleiswyr Llafur traddodiadol” ac mi gyhuddodd y Llywodraeth o drin gogledd Cymru’n israddol.

“Rydym o fewn trwch blewyn o roi diwedd ar y Llywodraeth Llafur yma,” meddai. “Blwyddyn nesaf gallwn roi diwedd ar y wladwriaeth un blaid yma.”