“Nonsens llwyr” yw honiad Flybe mai coronafeirws sydd yn gyfrifol am eu tranc, yn ôl un o gyflwynwyr Radio Cymru sydd wedi cael ei daro’n bersonol gan fethiant y cwmni.

Roedd Rhydian Bowen Phillips wedi trefnu gwyliau i Disneyland i ddathlu pen-blwydd ei wraig Chel, ac roedd wedi bwriadu teithio gyda hi – a’u mab – y bore yma o Gaerdydd i Paris.

Bellach mae’r gwyliau yn y fantol ac mae’n bosib y bydd yn rhaid iddo aildrefnu. Er gwaetha’r rhwystredigaeth yma, mater arall sy’n cythruddo fwyaf ar y cyflwynydd.

“Dw i’n deall bod coronafeirws yn gallu effeithio ar lot o bethau,” meddai wrth golwg360.

“Ond dw i’n credu ei fod yn cael ei ddefnyddio gan lot o bobol fel rhyw fath o smoke and mirrors. Rydym ni gyd yn gwybod mai achos Brexit mae hyn.

“Fyddai coronafeirws – sydd wedi bod yn y newyddion am ychydig wythnosau yn awr – ddim wedi galluogi i gwmni mor fawr â Flybe i fynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Felly, na, Brexit yw e cant y cant.”

Sefyllfa’r cyflwynydd

Mae Rhydian Bowen Phillips yn egluro ei fod wedi trefnu’r “holl becyn” – tocynnau Disneyland, hediadau, ac ati – trwy Disney, ac mae wedi treulio llawer o’r bore ar y ffôn â’r cwmni hwnnw.

Mae’n bosib, meddai, y bydd yn medru gadael o Gaerdydd naill ai yn ddiweddarach heddiw neu yfory – a hynny drwy gwmni awyrennau gwahanol.

Hyd yma dyw ddim wedi clywed “dim byd” wrth Flybe, ond dyw hynny ddim yn sioc iddo.

“Dw i ddim yn synnu ein bod ni ddim wedi clywed,” meddai. “Dw i jest yn synnu pa mor glou mae wedi digwydd.

“Aethom i’r gwely neithiwr a gweld bod rhywbeth yn torri – rhyw si bod Flybe efallai yn mynd i gael cyfarfodydd i gael cyngor a help.

“Ac wedyn bore ‘ma roeddwn ni’n gweld, tra’r oeddem ni’n codi i fynd i’r maes awyr, ar eu gwefannau cymdeithasol nhw eu bod nhw wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ac na ddylai neb fynd i’r meysydd awyr.”