Mae dyn 39 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio’r cyn-ddarlithydd Gerald Corrigan, a gafodd ei saethu gan fwa saeth y tu allan i’w gartref.

Dyfarnodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (Dydd Llun, Chwefror 24) bod Terence Whall, 39, yn euog o ladd Gerald Corrigan, 74, wrth iddo drwsio ei loeren y tu allan i’w gartref yn Ynys Môn ar ddydd Gwener y Groglith, Ebrill 19 y llynedd.

Hefyd, cafwyd Terence Whall a’r cyd ddiffynnydd Gavin Jones, 36, yn euog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder wrth gynllwynio i roi Land Rover Terence Whall ar dân.

Clywodd y rheithgor nad yw’n glir o hyd beth oedd y cymhelliad tu ol i lofruddiaeth Gerald Corrigan, ond roedd y pensiynwr a’i bartner Marie Bailey wedi talu £250,000 i Richard Wyn Lewis, oedd wedi ei gael yn euog o dwyll yn y gorffennol.

Ar Fai 31, cafodd Terence Whall a Gavin Jones eu harestio yng nghartref Richard Lewis yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â dadl ynglŷn ag arian. Mae Terence Whall yn gwadu iddo erioed gwrdd â Gerald Corrigan, ond clywodd y llys iddo guddio y tu allan i’w gartref ac aros i Gerald Corrigan ddod allan o’r tŷ ar ôl colli ei signal Sky.

Yn wreiddiol, dywedodd Terence Wall ei fod adref ar noson y saethu, ond pan ddangosodd y GPS yn ei gar nad felly’r oedd hi, dywedodd ei fod yn yr ardal am ei fod yn cwrdd â’i ffrind Barry Williams i gael rhyw ag o. Mae Barry Williams yn gwadu’r honiadau yma.

Daeth i’r amlwg fod Terence Whall, sydd yn wreiddiol o Lundain, wedi archebu saethau a bolltau yn ystod y misoedd yn arwain at y llofruddiaeth, yr union fath gafodd eu defnyddio i saethu Gerald Corrigan. A chafwyd bag pwnio yn llawn tyllau, oedd yn awgrymu ei fod wedi cael ei ddefnyddio i ymarfer targedu, yng nghartref Emma Roberts, partner Terence Whall ym Mryngwran.

Bu farw Gerald Corrigan yn yr ysbyty o ganlyniad i’w anafiadau ar Fai 11.

Yn ystod yr achos roedd brawd Gavin Jones, Darren Jones, 41, a’i ffrind Martin Roberts, 34, wedi pledio’n euog i gyhuddiad o roi’r Land Rover Discovery ar dân.

Fe fydd Terence Whall, Gavin Jones, Darren Jones a Martin Roberts yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener.