Fe fydd pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yn sgil Storm Ciara a Dennis yn derbyn hyd at £1,000 gan Lywodraeth Cymru.
Bydd pob cartref ledled Cymru sydd wedi dioddef oherwydd llifogydd yn derbyn £500. Bydd £500 ychwanegol yn cael ei roi i’r rhai heb yswiriant tŷ. Bydd pobl yn derbyn taliad cychwynnol o fewn 24 awr.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pobol wedi eu heffeithio i siarad â thimau cymorth brys awdurdodau lleol yn y lle cyntaf. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn rhan ‘Llifogydd Chwefror’ ar wefan Llywodraeth Cymru.
“Colled”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ar ôl bod i ymweld â’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio: “Pan wnes i gyfarfod â’r bobl yn y cymunedau sydd wedi cael eu taro gan y llifogydd yr wythnos diwethaf, gwelais drosof fi fy hun y pwysau, y straen a’r golled mae pobl yn ei deimlo. Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu nhw yn ystod y cyfnod anodd tu hwnt yma.
“Gwelais hefyd y pwysau eithriadol mae pobl yn ei deimlo os nad oes ganddyn nhw yswiriant neu os nad ydi eu polisïau yswiriant nhw yn talu mewn achos o lifogydd. I helpu’r bobl hynny, rydym yn darparu arian ychwanegol.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu cronfa argyfwng o £10 miliwn i helpu gydag effeithiau di-oed y llifogydd, ond mae costau difrod i adeiladau a’r arian sydd ei angen i ddelio ag â’r argyfwng newid hinsawdd yn mynd lawer pellach na hyn.”
Mae Mark Drakeford wedi bod yn feirniadol o ymateb araf y Llywodraeth yn San Steffan i effeithiau’r llifogydd yng Nghymru.
“Ar ôl wythnos o dawelwch yn wyneb yr argyfwng yma, mae angen i ni glywed ar fyrder beth fydd y gefnogaeth y dylai ein cymunedau ni ei ddisgwyl gan Lywodraeth Prydain.”