Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi penodi archwilwyr allanol i edrych ar y nifer o ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal ganddo, yn dilyn cŵyn gan Gymdeithas yr Iaith.

Mae ystadegau gan Gymdeithas yr Iaith yn dangos i’r Comisiynydd, Aled Roberts ymchwilio i 39% o’r cwynion sy’n cael eu derbyn ganddo yn ei chwe mis cyntaf yn y swydd.

Mae hyn yn cymharu â 78.5% o gwynion i’w ragflaenydd Meri Huws ymchwilio iddyn nhw yn y flwyddyn flaenorol.

Er bod Cymdeithas yr Iaith yn honni i Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, roi pwysau ar y Comisiynydd i gynnal llai o ymchwiliadau mae Golwg360 ar ddeall mai archwiliad i ostyngiad yn nifer y cwynion sy’n cael eu hymchwilio yn unig yw hwn, ac nid archwiliad i’r honiadau o roi pwysau ar y Comisiynydd.

Mae Gweinidog y Gymraeg yn gwadu’r honiadau hynny ac yn mynnu fod gan Gomisiynydd y Gymraeg “ryddid absoliwt” i ymchwilio i gwynion am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg.

Mae deddf iaith 2011 yn gwahardd y Llywodraeth rhag cyfarwyddo’r Comisiynydd am sut i ddefnyddio ei bwerau gorfodi.

“Ymdrech fwriadol”

Dywedodd Bethan Ruth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Rydyn ni’n falch bod y Comisiynydd wedi penodi archwilwyr allanol, mae’n dangos eu bod yn cymryd y cwynion o ddifrif.

“Mae bellach yn glir bod y Comisiynydd newydd, yn dilyn cais gan Weinidog y Llywodraeth, wedi gwneud ymdrech fwriadol i leihau nifer a chanran yr ymchwiliadau i gwynion a gynhelir ganddo, a hynny er mwyn sicrhau rhagor o gyllid a chyfrifoldebau o du Llywodraeth Cymru.

“Mae pobl wedi brwydro’n galed ers degawdau i ennill hawliau iaith, nid lle’r Llywodraeth yw twyllo i danseilio’r enillion pwysig hynny.”

Doedd dim modd i Gomisiynydd y Gymraeg gynnig ymateb i Golwg360 ar y mater tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.