Mae barnwr wedi codi pryderon am achos lle bu oedi o bron i bum mis wrth drin bachgen ag anableddau am sgil effeithiau dannoedd.

Dywed Justice Hayden fod y ffordd y cafodd achos y bachgen yn ei arddegau ei drin yn “warth” ac “nad oes modd ei amddiffyn.”

Mae penaethiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi ymddiheuro ac yn dweud eu bod yn bwriadu cynnal ymchwiliad mewnol i achos y bachgen nad oes modd ei enwi.

Cododd y barnwr bryderon ar ôl iddo ddadansoddi achos y bachgen mewn Llys Amddiffyn.

Yn ôl Mr Ustus Hayden, dechreuodd y bachgen daro ei ben yn erbyn wal fis Hydref y llynedd – ymddygiad roedd ei rieni’n credu oedd yn ymateb i’r dannoedd.

“Roedd hi’n amlwg fod angen rhyw fath o archwiliad deintyddol yn syth,” meddai.

“Ond ni chafodd cais ei roi (i’r Llys Amddiffyn) tan ddoe (dydd Iau, Chwefror 20).”