Cafodd gwefan llyfrgell adnoddau ar gyfer tiwtoriaid ac athrawon Cymraeg ei lansio yn ystod cynhadledd Dysgu Cymraeg i Oedolion y Gogledd Ddwyrain, yr wythnos yma.

Mae Llwyfan yn brosiect gafodd ei lansio gan Popeth Cymraeg Dinbych mewn partneriaeth â Choleg Cambria, fel rhan o ddatblygiad maes Cymraeg i oedolion lleol.

Dyluniwyd y wefan gan un o gyfarwyddwyr Popeth Cymraeg, Dyfrig Berry, sy’n arbenigwr technoleg gwybodaeth.

Cafodd yr adnoddau eu creu gan un o aelodau staff Popeth Cymraeg, Pegi Talfryn.

“Bydd y wefan newydd yma yn gaffaeliad mawr i diwtoriaid yr ardal ac yn ein galluogi ni fel partneriaeth i fedru cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n dysgwyr,” meddai Llinos Roberts, sy’n gyfrifol am arwain partneriaeth Dysgu Cymraeg y Gogledd Ddwyrain.

“Bydd cynnwys y wefan hefyd ar gael am ddim i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion ar draws Cymru ac athrawon Ail Iaith mewn ysgolion.

“Mae tua mil o adnoddau wedi’u uwchlwytho eisoes ac mae’r wefan yn cael ei diweddaru’n barhaol wrth i fwy o adnoddau gael eu creu.”