Bydd un o wyliau gyrfaoedd mwyaf y Deyrnas Unedig yn cael ei gynnal ym Mhowys mis nesaf.

Mae Gŵyl Gyrfaoedd Powys yn cael ei chynnal ddydd Mercher (Mawrth 4) ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Mae’r ŵyl yn denu oddeutu 3,000 o fyfyrwyr ysgol uwchradd, addysg bellach ac ysgolion arbennig o ar hyd a lled y sir.

Partneriaeth Llwybrau Positif Powys sy’n terfnu’r ŵyl ac mae hi’n denu oddeutu 100 o gyflogwyr, prifysgolion a cholegau yn ogystal â nifer o sefydliadau eraill er mwyn gynnig cipolwg i fyfyrwyr ifanc o Bowys ar y cyfleoedd sydd o’u blaenau.

Bydd cyn-ddisgybl o ysgol uwchradd Gwernyfed a chyflwynydd radio Capital FM, Ben Sheppard, yn gwneud ymddangosiad eleni.

Roedd Ben Sheppard yn brif fachgen yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed, cyn iddo fynd ymlaen i raddio mewn Newyddiaduriaeth Darlledu ym Mhrifysgol Nottingham Trent.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr ŵyl eleni,” meddai Cadeirydd Partneriaeth Llwybrau Positif Powys, Jackie Parker.

“Rydyn ni am ddangos i’n pobl ifanc y cyfleoedd o’r radd flaenaf sy’n aros amdanyn nhw pan fyddan nhw’n gorffen addysg orfodol.

“Gallai hynny fod yn gyflogaeth; efallai prentisiaeth neu’n parhau mewn addysg mewn ysgol, coleg neu brifysgol.”