Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ymgyrch lanhau yn sgîl y llifogydd ar ôl Storm Dennis, ac maen nhw’n cynnig cymhorthdal i bobol sydd wedi’u heffeithio gan y storm.

Nod tîm gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin erbyn hyn yw adfer a chynorthwyo cymunedau a busnesau a gafodd eu heffeithio yn hytrach nag ymateb i’r argyfwng.

Mae’r awdurdod wedi sefydlu cronfa gymorth ar gyfer y trigolion a’r busnesau sydd angen cymorth ariannol fwyaf.

Bwriad timau’r cyngor yw cynnal asesiad llawn o’r difrod gyda chriwiau’n dal i ysgubo a glanhau difrod a gafodd ei adael gan y llifogydd.

Bydd ffyrdd, coed a phontydd a gafodd eu heffeithio yn cael eu harchwilio.

“Nawr bod y llifogydd wedi cilio, mae ein ffocws wedi newid o ymateb i adfer,” meddai Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

“Hoffwn ddiolch i’n holl staff sydd wedi bod yn gweithio’n galed dros y penwythnos i ymateb i’r amodau anodd ac sy’n parhau i weithio gyda’n hasiantaethau partner yn ystod yr ymdrech lanhau hon.”