Mae “digwyddiad difrifol” wedi cael ei gyhoeddi yn sgil llifogydd mewn rhannau helaeth o’r de.
Mae Heddlu’r De yn dweud eu bod nhw’n cydlynu “ymateb aml-asiantaeth” i’r llifogydd sydd wedi effeithio’r rhan fwyaf o siroedd.
Ynghlwm wrth yr ymateb hwnnw mae’r heddlu, adrannau cynllunio’r awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, timau achub mynydd, Cyfoeth Naturiol Cymru a chwmnïau ynni.
Dywed yr heddlu mewn datganiad fod yr asiantaethau’n “gweithio’n barhaus i sicrhau diogelwch a lles y rhai sydd wedi’u heffeithio, lleihau’r difrod i isadeiledd ac eiddo a lleihau’r anghyfleustra”.
Mae’r gwasanaethau brys a nifer o asiantaethau’n ymateb i alwadau am lifogydd a thirlithriadau, ac mae pobol wedi’u symud o’u cartrefi yn y cymoedd.
Mae nifer o ganolfannau cymunedol yn cael eu defnyddio fel lloches i drigolion sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.
Cyngor gan yr heddlu
“Hoffwn sicrhau’r cyhoedd sydd wedi cael eu heffeithio ein bod ni’n gwneud popeth allwn ni, ac yn parhau i weithio’n ddiflino hyd nes bod pob risg yn cilio,” meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Jennifer Gilmer.
“Hoffwn ddiolch i’n holl wasanaethau brys a phartneriaid achub am eu cymorth a’u proffesiynoldeb.
“Mae gen i gyngor clir iawn i bawb, sef peidio â mynd i banig ac i fod yn synhwyrol – cadwch draw rhag unrhyw berygl megis rhaeadrau ac afonydd, a chysylltwch â ni mewn argyfwng.”
Mae’r heddlu’n cynghori pobol:
- Arhoswch dan do oni bai bod eich taith yn gwbl angenrheidiol
- Cadwch draw o beryglon megis dŵr
- Mewn argyfwng, ffoniwch 999 – gadewch i wasanaethau brys a staff achub â sgiliau sylweddol ymdrin â digwyddiadau mewn modd diogel.
- Cadwch lygad ar y cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol sefydliadau perthnasol am ddiweddariadau.