Mae rhybuddion coch yn eu lle ar draws y de heddiw (dydd Sul, Chwefror 16), wrth i Storm Dennis achosi glaw trwm a llifogydd sy’n peryglu bywydau.

Mae rhybudd fod afonydd Taf yn gorlifo yn nhref Pontypridd, ac afon Nedd yn Aberdulais yn gorlifo, wrth i 105mm o law gwympo yn nhref Tredegar dros gyfnod o 24 awr hyd at 7 o’r gloch fore heddiw.

Mae’r rhybuddion coch yn eu lle yn ardaloedd Blaenau Gwent, Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen tan 11 o’r gloch fore heddiw.

Yn y gogledd, fe wnaeth y gwyntoedd godi i 91 milltir yr awr yn Aberdaron am 6 o’r gloch neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 15).

Rhybuddion eraill

Mae rhybudd oren am law difrifol i rannau helaeth o Gymru hefyd, wrth i wasanaethau trenau gael eu canslo oherwydd glaw difrifol ar y cledrau.

Bydd y rhybudd hwnnw yn ei le tan 3 o’r gloch heddiw.

Mae trigolion Ynysgynwraidd yn Sir Fynwy wedi cael cyngor i adael eu cartrefi a mynd am ganolfan hamdden Y Fenni.

Mae rhannau helaeth o ardal Rhondda Cynon Taf wedi’u heffeithio, ac mae canolfannau brys wedi’u sefydlu ym Merthyr Tudful ac Aberfan.

Bu’n rhaid symud pobol o’u cartrefi hefyd yn ardal Tonna ger Castell-nedd.

Mae rhybudd melyn i Gymru gyfan tan ganol dydd, ond mae’n para tan ganol dydd yfory (dydd Llun, Chwefror 17) i ardaloedd Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Powys ac Ynys Môn.