Bydd disgyblion o Bort Talbot yn helpu i graffu ar Brif Weinidog Cymru mewn sesiwn arbennig yn ddiweddarach.

Er bod ‘Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog’ yn cyfarfod ym Mae Caerdydd gan amlaf, heddiw (dydd Gwener, Chwefror 14) mi fyddan nhw’n ymgynnull yn Ysgol Gymraeg Bro Dur.

Yno bydd y disgyblion yn cael cyfle i drafod yr argyfwng hinsawdd ymhlith ei gilydd, cyn codi’r mater â Mark Drakeford.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, ac yn cael ei ffrydio’n fyw ar wefan y Cynulliad.

Cynnwys pobol Cymru

“Mae pobl ifanc yn benodol yn poeni am y dyfodol ac rydym yn ddiolchgar i Ysgol Gymraeg Bro Dur am gynnal ein cyfarfod ac am ein helpu i ddatblygu cwestiynau heriol i’r Prif Weinidog,” meddai Cadeirydd y pwyllgor, Ann Jones.

“Mae cynnwys holl bobol Cymru yng ngwaith y Cynulliad yn un o’n blaenoriaethau allweddol ac, ar bwnc sydd mor bwysig â newid yn yr hinsawdd, mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cael cyfle i ddylanwadu’n uniongyrchol ar ein gwaith craffu ar y Prif Weinidog.”