Mae yna berygl fod Llywodraeth Cymru yn “tanseilio” targed miliwn o siaradwyr trwy beidio â gwario digon ar y Gymraeg.

Dyna yw rhybudd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, mewn gohebiaeth â Phwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, y Cynulliad.

Cafodd cyllideb ddrafft £20bn y Llywodraeth ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr, ac mae’r ddogfen yn amlinellu ymrwymiad i gadw gwariant ar y Gymraeg yn £20.9m am gyfnod 2020-21.

Mae pryderon eisoes wedi codi am hyn, gyda Chymdeithas yr Iaith yn dadlau y bydd gwariant yn cwympo mewn termau real gan £400,000 neu 1.6% – o ystyried chwyddiant, ac ati.

A bellach mae Comisiynydd y Gymraeg wedi rhannu ei bryderon yntau.

“Nid oes cynnydd cyffredinol wedi bod yng nghyllideb y Gymraeg,” meddai mewn llythyr i’r pwyllgor.

“Felly mae’n rhaid gofyn a yw’n bosibl i Weinidog y Gymraeg [Eluned Morgan] a Llywodraeth Cymru gyflawni strategaeth uchelgeisiol heb gynnydd yng nghyllideb y Gymraeg.

“Mae’n ymddangos i mi nad yw lefel y gwariant ar y Gymraeg ar hyn o bryd yn cyd-fynd ag uchelgais Cymraeg 2050 ac mae risg bod diffyg buddsoddi ychwanegol yn mynd i danseilio ymdrechion i gyflawni’r strategaeth.”

Gohebu

Cafodd llythyr Aled Roberts at y pwyllgor ei anfon ar Ionawr 31, ac mae’n cyfeirio at darged y llywodraeth i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mewn ymateb i sylwadau’r Comsiynydd, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae cyllideb y Gymraeg wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau tymor y Llywodraeth hon, ac rydym yn falch o fod wedi gallu cynnal y cynnydd hwnnw yng nghyllideb y Gymraeg ar gyfer 2020-21 gan ei chadw ar yr un lefel â 2019-20.

“Wrth ystyried cyllideb y Gymraeg, mae’n bwysig cofio nad cyllideb Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn unig sy’n cefnogi gweithredu Cymraeg 2050. Rydym yn prif-ffrydio’r Gymraeg i waith y llywodraeth gyfan ac felly mae cyllidebau ar draws y llywodraeth yn cyfrannu at wireddu ein nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”