Dylai pobol ifanc yng Nghymru aros mewn addysg neu hyfforddiant nes eu bod yn troi’n 18 oed, yn ôl adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus.

Mae’r felin drafod yn awgrymu na ddylai pobol ifanc adael yr ysgol wedi iddyn nhw droi’n 16 oed.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae oddeutu 10.3% o bobl ifanc 16-18 oed un ai yn ddi-waith, neu ddim mewn addysg neu hyfforddiant.

Y gred yw y byddai hyn yn rhwystro pobol ifanc rhag derbyn cyflogau llai mewn swyddi dros dro ar ôl gadael yr ysgol.

“Uchelgais”

Dywed yr adroddiad: “Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ba mor bwysig y gallai’r system sgiliau fod dros y blynyddoedd i ddod, gan ddatblygu nifer o strategaethau sy’n ymwneud â sgiliau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Hyd yn hyn, fodd bynnag, nid yw uchelgais y llywodraeth â diwygiadau bob amser wedi cyfateb â maint yr her.”

Prentisiaethau

Ond dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi creu 74,000 o brentisiaethau ers 2016, cyn honni bod y mwyafrif o bobol ifanc yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant wedi iddynt droi’n 16.

Ar hyn o bryd, mae pobol ifanc yn cael gadael yr ysgol ar ôl iddynt gwblhau eu TGAU heb orfod cwblhau addysg bellach na dilyn cwrs hyfforddi.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae dros 90% o ddisgyblion yng Nghymru’n aros mewn addysg llawn amser neu hyfforddiant ar ôl troi’n 16 oed.

“Mae gennym nifer o bolisïau i helpu pobol ifanc i gael gwaith neu addysg, gan gynnwys ein buddsoddiad mewn prentisiaethau.”