Mae dyn o’r Barri yn dweud y bydd e’n dychwelyd adref i Gymru o Iwerddon fore dydd Mawrth (Chwefror 11) ar ddiwedd penwythnos hunllefus.

Ddydd Gwener (Chwefror 7), postiodd Robert Hughes neges ar ei dudalen Facebook yn dweud iddo orfod cael triniaeth ddeintyddol ar ôl teithio i Iwerddon ar gyfer y gêm rygbi yn Nulyn.

“Fe gostiodd £50 i fi (sy’ ddim yn ddrwg o ystyried beth wnaethon nhw) a dw i ddim mewn poen erbyn hyn,” medd un neges.

“Roedd y ddanoedd gyda fi ac fe fyddai’n sicr wedi difetha fy mhenwythnos, felly dw i wrth fy modd mewn gwirionedd.”

O ddrwg i waeth

Ar ôl gwylio’r gêm yn Nulyn, cafodd e wybod fod ei daith awyren wedi cael ei chanslo o ganlyniad i’r storm.

Roedd e’n gobeithio teithio o Belffast i Fryste fore heddiw, ac mae e wedi postio neges gan y cwmni awyr yn dweud bod modd i deithwyr amnewid tocynnau.

Mae e’n disgwyl erbyn hyn y bydd modd iddo fe ddod adre’ ddydd Mawrth (Chwefror 11).

“Wel, fe wnes i ddewis trosglwyddo (yn rhad ac am ddim) i’r hediad nesaf fore dydd Mawrth ac maen nhw’n trio codi £88 am y fraint.

“Rhaid i fi ddweud ’mod i’n dechrau teimlo’r straen nawr.”

Mewn neges arall, mae’n awgrymu mai camddealltwriaeth oedd y ffi o £88, sef cost wreiddiol y daith – ond does dim modd iddo fe wirio’r wybodaeth honno,” meddai.

“Mae’n edrych yn debygol mai’r £88 yw’r hyn wnes i ei dalu’n wreiddiol, nid ffi ychwanegol.

“Alla i ddim gwirio hyn oherwydd trafferthion gyda’r ap, felly dw i ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd.”

Mae’n dweud erbyn hyn ei fod e wedi cael tocyn awyren i ddychwelyd fore dydd Mawrth, ac ystafell mewn gwesty am heb orfod talu rhagor o arian.

Mae’n dweud ei fod e’n bwriadu gofyn i Easyjet dalu am yr ail noson.