Mae fferm antur yn Sir Benfro yn chwilio am enw ar gyfer y rhinoseros cyntaf i’w eni yng Nghymru, a gafodd ei eni yno ar Ionawr 16.

Mae staff Folly Farm yn gofyn i’r cyhoedd ddewis enw Cymreig ar gyfer y rhinoseros du dwyreiniol.

“Gall fod yn air neu enw Cymraeg (byddem yn caru clywed yr ystyr),” meddai’r fferm ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ymhlith yr enwau sydd wedi’u hawgrymu mae Glyn, Rhion a Llwyd.

Mae staff y fferm yn gofalu am y babi a’i fam Damika, a dydyn nhw ddim yn weladwy i’r cyhoedd ar hyn o bryd.

Mae llai na 650 o’r anifeiliaid yn y byd erbyn hyn.