Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl dod o hyd i gorff dyn ger Prestatyn neithiwr (nos Wener, Ionawr 24).
Cafwyd hyd i’w gorff ar ffordd A548 rhwng Prestatyn a Gronant.
Does gan yr heddlu ddim eglurhad hyd yn hyn.
Maen nhw’n apelio am ddeunydd dashcam o’r deg diwrnod diwethaf wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.