Mae gwerthwr creiriau o Gaerdydd wedi osgoi cyfnod o garchar ar ôl dweud nad oedd e’n ceisio elwa’n bersonol wrth guddio darnau o arian o oes y Llychlynwyr.

Fe wnaeth Paul Wells, 60, guddio pum darn o arian gwerth hyd at £75,000 yn nolen chwyddwydr ar ôl i beiriannau canfod metel ddod o hyd i’r darnau ar fferm yn Swydd Henffordd yn 2015.

Cafwyd e’n euog fis Tachwedd y llynedd, ynghyd â thri dyn arall, o gynllwynio i guddio eiddo troseddol.

Mae’r ddau arall eisoes wedi’u carcharu am eu rhan yn y cynllwyn, am nad oedden nhw wedi rhoi gwybod i’r awdurdodau am y darnau arian.

Clywodd Llys y Goron Caerwrangon (Worcester) fod gan Paul Wells nifer o broblemau iechyd, a’i fod e wedi rhoi’r darnau arian i blismon wrth gael ei gyfweld ym mis Medi 2015.

Cafodd e ddedfryd ohiriedig o 12 mis o garchar, a 240 awr o waith di-dâl, a bydd rhaid iddo gymryd rhan mewn rhaglen adferiad.

Dydy’r awdurdodau ddim wedi dod i rannau helaeth o’r casgliad.