Fe roddodd Gwasg Y Lolfa y gorau i gyhoeddi cardiau Santes Dwynwen oherwydd diffyg diddordeb wrth i ymgyrch fwriadol ddechrau yn y 60au i gael diwrnod cariadon Cymreig.

Bellach, mae arbenigwraig ar y traddodiad yn dweud bod y dathlu yn dechrau cydio … ond mae wedi cymryd mwy na hanner canrif.

“Syniad Vera Williams myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor ganol y chwedegau oedd atgyfodi cwlt Dwynwen i ddisodli Sant Ffolant” meddai Catrin Stevens, awdur cyfrol am arferion caru a thraddodiad Dwynwen ei hun, Santes Dwynwen.

“Perswadiwyd Gwasg y Moresg, Llanystumdwy i argraffu pedwar cerdyn hardd ar gyfer 25 Ionawr – cynlluniwyd nhw gan yr artist Elis Gwyn Jones ac fe ddaethon nhw’n eithaf poblogaidd ar unwaith. Cipiodd y syniad ddiddordeb Gwasg Y Lolfa a dechreuon nhw argraffu ambell gerdyn llai parchus.”

Y Lolfa

Roedd y cardiau hynny’n cynnwys llun pen-ôl a’r gair ‘Tîn’ ar un ochr a llun o jîns a ‘Denim Calon’ ar y llall.

Ond, yn ôl sylfaenydd y wasg, er gwaetha’r brwdfrydedd tros yr iaith a datblygiadau fel y sîn bop Gymraeg, doedd y cardiau ddim yn llwyddiant.

“Rwy’n cofio i’r cardiau gael tipyn o sylw flynyddoedd yn ôl,” meddai Robat Gruffudd. “Ond wrth gwrs roedd yn anodd gwrthsefyll holl bropaganda Saesneg Dydd Ffolant.

“Doedden nhw ddim yn gwerthu’n ffantastig. Fe gadwon ni nhw mewn print am ychydig ond wnaethon ni mo’u datblygu am nad oedd yna lawer o ddiddordeb.”

Heddiw

Ond erbyn hyn mae arwyddion fod pethau’n dechrau newid, meddai Catrin Stevens, sy’n dweud bod poblogrwydd y diwrnod ymysg y Cymry yn tyfu.

“Yn raddol tyfodd y diddordeb yn yr ŵyl yng Nghymru gyda chiniawau, disgos, cyngherddau, twmpathau dawns, a rhaglenni thematig ar y radio a’r teledu,” meddai.

“Mae cymdeithasau Cymreig ledled y byd yn dathlu’r ŵyl bellach ac mae bri ar y cardiau hardd a’r rhai doniol.”