Mae criw o brotestwyr wedi meddiannu swyddfeydd Cyngor Caerdydd heddiw (Dydd Llun, Ionawr 20) er mwyn pwyso am sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn natblygiad Plasdŵr yng ngogledd-orllewin y ddinas.
Yn ôl ym mis Medi 2018, cyhoeddodd Arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas y byddai “ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr.”
Ond mae cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog newydd gyda hanner y disgyblion mewn ffrwd Saesneg.
Lluniwyd deiseb yn galw am ysgol benodedig Gymraeg, a gafodd 876 llofnod arni.
Dim ond 15 o 180 o ymatebion oedd yn cefnogi agor ffrwd Saesneg ym Mhlasdŵr, lle bydd saith mil o dai yn cael eu hadeiladu dros y saith mlynedd nesaf.
Mae bron i chwarter y boblogaeth yno’n siarad Cymraeg.
“Rhwystro twf y Gymraeg”
Dywed Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith: “Rydyn ni’n galw ar Arweinydd y Cyngor i gadw at ei air i agor ysgol cyfrwng Cymraeg, nid ysgol ddwyieithog.
“Fel arall, drwy beidio defnyddio’r cyfalaf sy’n dod gyda’r datblygiad tai anferth yma i agor ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig, byddai’r cyngor yn rhwystro twf y Gymraeg yn yr ardal a dyheadau’r rhan helaeth o bobl yr ardal i adfer y Gymraeg a gweld ein pobl ifanc yn dod yn rhugl yn yr iaith.”
Mae disgwyl i gabinet y cyngor benderfynu ar gyfrwng iaith yr ysgol gyntaf sy’n rhan o ddatblygiad Plasdŵr ddydd Iau (Ionawr 23).