Dylai Llywodraeth Cymru sgrapio eu cynlluniau i wahardd taro plant gan ddweud bod arolwg barn ddiweddar yn Seland Newydd wedi dangos y gall fod yn gwneud “mwy o ddrwg nag o les”.

Daeth y gwaharddiad taro plant i rym yn Seland Newydd yn 2007, ond yn ôl Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd, Darren Millar mae arolwg barn ddiweddar yn dangos bod hanner y bobol yno yn credu bod y gwaharddiad wedi arwain at ostyngiad mewn disgyblaeth yn y wlad.

Y llynedd fe gefnogodd Pwyllgor Addysg y Cynulliad gynnig gan Aelodau Cynulliad i wneud taro plant yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Ond mae Darren Millar o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru “gefnu ar y cynlluniau amhoblogaidd hyn.”

Yn dilyn y gwaharddiad ni fydd hawl gan rieni i ddefnyddio “cosb resymol” fel amddiffyniad cyfreithiol os ydyn nhw’n cael eu cyhuddo o guro neu ymosod ar blentyn.

Mae disgwyl i Aelodau Cynulliad drafod y cam nesaf y Bil yn y Senedd ddydd Mawrth (Ionawr 21), ac mae Darren Millar yn awyddus i dynnu sylw’r llywodraeth at yr arolwg barn yn Seland Newydd.

Gwaharddiadau “ddim yn gweithio”

Yn ôl Darren Millar: “Nid yw’r cyhoedd yng Nghymru eisiau’r ddeddfwriaeth hon”.

“Mae gennym eisoes ddeddfwriaeth gynhwysfawr ar waith y mae’r heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol ac eraill yn ei defnyddio i ddelio â cham-drin plant a dylai’r rhai sy’n eu torri deimlo pwysau llawn y gyfraith.

“Mae’r rhan fwyaf o rieni sy’n taro eu plant yn achlysurol yn gwneud hynny o fewn cyfyngiadau perthynas gariadus gyda’r plentyn y maen nhw am ei fagu i fod yn oedolyn cyfrifol ac yn rhywun a all gyfrannu’n ddefnyddiol at gymdeithas yn y dyfodol.”

Ychwanegodd bod yr arolwg ddiweddaraf yn Seland Newydd yn “dystiolaeth bellach nad yw gwaharddiadau ar daro plant yn gweithio. Tair ar ddeg mlynedd ers cyflwyno’r gwaharddiad yn Seland Newydd, mae’r arolwg yn awgymru nad yw’n cael effaith ar niferoedd cam-drin plant ac y gallai fod yn gwneud mwy o ddrwg nag o les.”

Cafodd yr arolwg ei chynnal ym mis Rhagfyr y llynedd ac mae’n awgrymu bod 40% o famau plant ifanc yn dweud eu bod  nhw’n parhau i daro eu plant er gwaetha’r newid yn y gyfraith, meddai Darren Millar.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.