Fe fu twf sylweddol yn nifer y bobol sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru, yn ôl Yes Cymru.

Daw’r datganiad ar drothwy Cyfarfod Cyffredinol y mudiad annibyniaeth yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful ddydd Sadwrn nesaf (Ionawr 25).

Ers y cyfarfod cyffredinol diwethaf y llynedd, mae nifer o orymdeithiau cenedlaethol wedi’u cynnal, a’r rheiny wedi sbarduno aelodau a chefnogwyr newydd.

“Yn 2019, daeth miloedd allan i’r strydoedd i ddatgan eu dymuniad i weld Cymru annibynnol yng ngorymdeithiau AUOB Cymru – rhywbeth sydd erioed wedi digwydd o’r blaen – ac mae trafod annibyniaeth i Gymru yn awr yn dod yn rhan naturiol o fywyd a sgwrs pobol Cymru o ddydd i ddydd,” meddai Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru.

“Fe wnaeth cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, siarad yn un o gyfarfodydd cyhoeddus Yes Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fe ddangosodd arolwg barn YouGov ym mis Medi 2019 y byddai rhwng 32% a 41% yn pleidleisio dros annibyniaeth mewn refferendwm yn ddibynnol ar y cwestiwn.”

Yn ôl Siôn Jobbins, mae nifer aelodau Yes Cymru wedi treblu i oddeutu 2,500 ers y cyfarfod cyffredinol hwnnw, a grwpiau lleol wedi’u sefydlu ar hyd a lled Cymru.

“Bu twf anferthol hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol, a nifer ein dilynwyr ar Twitter yn dyblu, o 10,000 i 20,000 mewn blwyddyn.”

Siaradwyr

Yn dilyn y cyfarfod cyffredinol, fe fydd nifer o sesiynau ‘Sgwrs Annibyniaeth’ yn cael eu cynnal.

Y siaradwyr fydd David Buttress (Cyfleoedd a ddaw i fusnes gydag annibyniaeth), Angharad Mair (y cyfryngau), Carolyn Hitt (rygbi ac annibyniaeth), Mark Evans (pêl-droed ac annibyniaeth) a Mark Hooper (Banc Cambria).

Yn ôl Siôn Jobbins, mae safon y siaradwyr “yn dyst i’r newid ymysg pobol Cymru”.

Fe fydd gorymdeithiau cenedlaethol yn cael eu cynnal eleni yn Wrecsam, Tredegar ac Abertawe.