Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw yn dilyn digwyddiad yn y Coed-duon ar Ionawr 14.

Cafodd Shane Jones, 33 oed, o’r Coed-duon ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad mewn tŷ yn Ffordd Apollo, tua 10yh nos Fawrth.

Bu farw o’i anafiadau yn ddiweddarach.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i’w lofruddiaeth ac mae dyn 32 oed o’r Coed-duon wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio