Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Amaeth, dan y lach ar ôl i ffigurau newydd ddangos cynnydd o 24% yn nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu difa o ganlynad i’r diciâu.
Mae Andrew RT Davies, llefarydd Amgylchedd, Cynaladwyedd a’r Amgylchedd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod ffermwyr yn “ofni” y cyhoeddiad misol, a bod ganddyn nhw “reswm da” am wneud hynny.
Cafodd 12,742 o anfeiliaid eu difa o ganlyniad i’r diciâu yn ystod y flwyddyn hyd at Hydref 2019, i fyny o 10,303 (24%) o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2018, tra bod y ffigwr wedi gostwng 2% yn yr un cyfnod yn Lloegr.
“Yn amlwg, dydy’r Gweinidog Llafur dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ddim wedi cael gafael dda ar ei briff ar ôl bron i bedair blynedd yn y swydd ac mae ffermwyr – a’r economi wledig – yma yng Nghymru yn dioddef o ganlyniad,” meddai.
“Ond nid dioddefaint ariannol yn unig yw e,” meddai wedyn, wrth drafod effaith seicolegol y difa.
“Dim ond ddoe, fe wnaeth fy nghydweithiwr Paul Davies AC siarad yn angerddol yn y Siambr am bwnc ffermwyr yn dioddef problemau iechyd meddwl.
“Mae’r diciâu yn golygu pwysau ychwanegol, achos arall o straen mae ein ffermwyr sy’n gweithio’n galed a’u teuluoedd yn dioddef yn ei sgil, ac mae’n bryd i hynny ddod i ben.”