Mae dyn wedi marw ar ôl i gar ei daro yn Wrecsam yn oriau man fore heddiw (dydd Sul, Ionawr 12).
Bu’n rhaid cau ffordd A534 Llan-y-pwll yn dilyn y digwyddiad yn ymwneud â Suzuki Swift lliw gwyn am oddeutu 12.45yb.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ei alw i’r digwyddiad.
Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod, ac mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion.