Mae Liberty Steel Group wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cael gwared ar swyddi 70 o’i gweithwyr yng Nghymru.

Yn ogystal â’r swyddi yng Nghasnewydd, mae’r cwmni dur hefyd yn ystyried torri 280 o swyddi yn Stocksbridge, de Swydd Efrog.

Daw’r cam yn sgil adolygiad o waith y cwmni ledled y Deyrnas Unedig, ac mae’r busnes wedi cynnig  colli gwaith gwirfoddol i rai o’u gweithwyr.

Ymatebion

“Mae ein gweithwyr yn haeddu gwell na hyn,” meddai Ross Murdoch, swyddog cenedlaethol undeb y GMB. 

“Gwlad sydd yn siŵr o fethu yw gwlad sydd ddim yn cynhyrchu dur ei hun ar gyfer prosiectau isadeiledd mawr, ac adeiladu llongau.”

“Mae hyn yn gyfnod o ofid iawn i’r gweithwyr a’u teuluoedd yn y safle yng Nghasnewydd, ac yn y safleoedd mwy yn ne Swydd Efrog,” meddai Russell George, llefarydd economi y Ceidwadwyr Cymreig.

“Penderfyniad anodd”

“Yn anffodus mae’r diwydiant dur yn y Deyrnas Unedig yn wynebu amodau heriol ac rydym wedi cymryd y penderfyniad anodd bod angen lleihau’r gweithlu mewn llond llaw o safleoedd er mwyn eu gwneud nhw’n fwy cynaliadwy yn yr hir dymor,” meddai Cornelius Louwrens, Prif Weithredwr Liberty Steel Group. 

“Ers y dechrau, rydym wedi eisiau osgoi gorfodi diswyddiadau.”