Mae cwmni Tata “yn chwilio am esgus i adael Ewrop”, yn ôl Dennis Keogh, cynghorydd Port Talbot, sy’n dweud bod yr “ysgrifen ar y mur” i’r diwydiant dur yng Nghymru.

Fe fu’n siarad â golwg360 yn dilyn erthygl yn y Sunday Times, lle mae Natarajan Chandrasekaran yn rhybuddio na all y cwmni barhau i ddioddef colledion sylweddol ar y safle.

Mae oddeutu 4,000 o weithwyr wedi’u cyflogi ar safle Port Talbot.

Ond fe wnaeth y cwmni golledion o £371m yng ngwledydd Prydain y llynedd, i fyny o £222m.

“Os nad ydych chi’n perfformio, pwy fydd â diddordeb?” meddai’r pennaeth mewn cyfweliad â’r papur.

“Bydd pawb yn dweud wrthych fod y Tatas wedi mynd y tu hwnt i’r angen i gadw hyn i fynd. Byddai unrhyw un arall wedi cerdded i ffwrdd.”

Ymateb lleol

“Dw i’n meddwl bod Tata jyst yn chwilio am esgus i adael Ewrop yn ei chyfanrwydd, nid yn unig o ran y diwydiant dur ond y diwydiant ceir hefyd, o ddarllen rhwng y llinellau,” meddai Dennis Keogh wrth golwg360.

“Maen nhw’n ceisio symud eu gwaith gweithgynhyrchu ymhellach i’r dwyrain, ac maen nhw eisoes wedi adeiladu ffatri geir yn Tsieina.

“Mater o amser yw hi cyn iddyn nhw symud eu gweithrediadau cyfan allan o wledydd Prydain ac i mewn i Tsieina er mwyn adeiladu ceir Jaguar a Rover.

“Bydd rhaid iddyn nhw ddod o hyd i rywun i’w brynu, ac alla’i ddim gweld BMW yn gwneud oherwydd mae gan BMW a Vauxhall eu trafferthion mawr eu hunain.

“Felly dw i’n meddwl bod dyddiau’r diwydiant dur yn dirwyn i ben.

“Pa un a fyddwn ni’n cyrraedd 2026 a’u bod nhw’n cadw eu haddewid sy’n gwestiwn arall, ond dw i’n credu eu bod nhw’n chwilio am ffordd o ddweud, pan ddaw’r [prynwr] nesaf, fydd ganddyn nhw ddim dewis ond dweud ‘hwyl fawr’.”

Diffyg gwaith datblygu

Mae Dennis Keogh yn dweud bod penaethiaid Tata yn euog o amddifadu safle Port Talbot ers rhai blynyddoedd.

“Cafodd ffwrnais rhif pedwar ei ail-adeiladu ac fe gafodd ffwrnais rhif pump ei addasu, ond roedd hynny oherwydd y rheolwr gyfarwyddwr oedd gyda ni ar y pryd.

“Mae’r ffwrneisi’n dda iawn ac yn creu cynnyrch da iawn, gyda rhai ohonyn nhw’n cael eu hallforio i’r Unol Daleithiau oherwydd eu bod nhw o’r radd flaenaf. Dydy’r rheiny ddim yn denu’r tariffau.

“Ry’n ni â’n cefnau at y wal. Pe baen ni wedi cael y buddsoddiad ar hyd y blynyddoedd…

“Dim ond nawr maen nhw’n adnewyddu un o’r ffwrneisi ar ôl 30 o flynyddoedd. Maen nhw’n rhoi craen yno nawr, ond gallen nhw fod wedi mireinio a diweddaru.

“Beth sydd yn eu strategaeth nhw? Dw i ddim yn gwybod.”

Beirniadu’r penaethiaid

Wrth ymateb i sylwadau Bethan Sayed am y ffordd mae penaethiaid Tata yn cyhoeddi gwybodaeth fesul dipyn, dywed Dennis Keogh fod Aelod Cynulliad Plaid Cymru “yn llygad ei lle”.

“Maen nhw’n cyhoeddi gwybodaeth fesul dropyn.

“Dyna’r cyfan maen nhw’n ei wneud fel na fydd yn sioc fawr pan fyddan nhw’n dweud eu bod nhw am dynnu’r plwg a chau’r gatiau.

“Mewn geiriau eraill, marwolaeth yw hyn wrth y fil o doriadau.”

A phe bai’r safle’n cau yn y pen draw, mae’n dweud ei fod e’n gofidio am ddenu swyddi o safon uchel i dref Port Talbot.

“Mae unrhyw un ar yr ochr gynhyrchu’n ennill mwy na £25,000 i £30,000 y flwyddyn. Chewch chi mo’r swyddi uwch hynny’n dod i mewn fel arall.

“Fel cyngor, ry’n ni’n ceisio denu cwmnïau i mewn. Ry’n ni wedi cael peth llwyddiant gyda’r Llys Ynadon, lle mae un cwmni uchel ael wedi symud yma o Lundain, gan ei bod yn fwy deniadol iddyn nhw oherwydd ein cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd.

“Maen nhw’n talu cyflogau o £80,000-£90,000 y flwyddyn i bobol gymwys dros ben.

“Ry’n ni hefyd wrthi’n denu arian fel rhan o’r Cytundeb Dinesig a fydd yn rhoi’r sgôp a’r cyllid i ni adnewyddu’r harbwr.

“Ond mae’r ysgrifen ar y mur, dw i’n meddwl, ac mae’n amser pryderus dros ben.”