Mae cwest wedi clywed gan deulu llanc a gafodd ei lofruddio ym Mhorthcawl gan droseddwr oedd wedi’i ryddhau ar drwydded.

Cafodd Conner Marshall, 18, ei guro i farwolaeth gan David Braddon ym mharc carafanau Trecco Bay ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015.

Roedd David Braddon yn cael ei oruchwylio yn y gymuned ar ôl ei gael yn euog o droseddau yn ymwneud a chyffuriau ac ymosod ar swyddog yr heddlu.

Clywodd y cwest ddydd Llun (Ionawr 6) bod David Braddon wedi methu apwyntiadau gyda’r gwasanaethau brawf yn y misoedd yn arwain at y llofruddiaeth, tra bod staff heb gael gwybod ei fod wedi ei gael yn euog cyn hynny o guro ei bartner yn 2009.

Adroddiad

Dywedodd Nadine Marshall, mam Conner Marshall, nad oedd hi wedi cael gwybod bod David Braddon yn cael ei oruchwylio yn y gymuned am bum mis wedi’r llofruddiaeth.

Dywedodd ei fod wedi cymryd wyth mis ar ôl hynny i gael crynodeb o’r manylion ym mis Ebrill 2016 ond bod Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru wedi gwrthod rhoi mynediad i’r teulu i’r adroddiad llawn.

Ychwanegodd y fam i dri o blant o’r Barri ei bod hi a’i gwr, Richard, wedi mynd at y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llundain i wneud cais am gopi o’r adroddiad ond eu bod nhw wedi clywed nad oedd hawl ganddyn nhw ei weld.

Ond y diwrnod canlynol, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddai’r teulu yn cael gweld yr adroddiad llawn ac fe gawson nhw gopi misoedd yn ddiweddarach ym mis Tachwedd 2016.

Ymosodiad

Clywodd Llys y Crwner bod Conner Marshall wedi bod yn y maes carafanau gyda ffrindiau yn oriau man Mawrth 8, a phan oedd ar ei ben ei hun cafodd ei weld gan David Braddon oedd wedi cymryd cyffuriau, gan gynnwys cocên ac alcohol.

Roedd David Braddon yn credu mai cynbartner ei gyn-gariad oedd Conner Marshall, gan ymosod arno gyda pholyn metel a’i gicio.

Ar ôl sefyll ar ei wyneb a thynnu dillad Conner Marshall, fe sylweddolodd David Braddon ei fod wedi ymosod ar y person anghywir.

Cafodd Conner Marshall ei ddarganfod gan rywun oedd ar wyliau yn y maes carafanau oedd wedi cael ei ddeffro gan y sŵn.

Erbyn hynny roedd David Braddon, o Gaerffili, wedi ffoi a chafodd ei arestio gan yr heddlu yn yr Alban yn ddiweddarach.

Bu farw Conner Marshall yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar Fawrth 12 2015.

Roedd David Braddon wedi pledio’n euog i gyhuddiad o lofruddiaeth a chafodd ddedfryd o garchar am oes, gydag isafswm o 20 mlynedd dan glo.

Dywedodd y dirprwy grwner Nadim Bashir y byddai’r cwest yn edrych ar gyfraniad y Gwasanaeth Prawf ac amodau trwydded David Braddon.

Mae’r cwest yn parhau.