Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i fynd i’r afael â digartrefedd cudd.

Nod yr ymgyrch yw tynnu sylw at broblem ddigartrefedd cudd, ac mae wedi’i thargedu at bobl ifanc a allai fod yn ddigartref neu mewn perygl o hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud hyn drwy sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cymorth a’r gefnogaeth cyn gynted â phosib, gan atal digartrefedd rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Mae’r ymgyrch hefyd yn cynghori’r cyhoedd ynghylch yr hyn i’w wneud os ydyn nhw’n bryderus am rywun maen nhw’n ei adnabod.

Gall digartrefedd cudd olygu fod pobol yn cysgu ar soffa yn nhai ffrindiau, neu’n aros yn rhywle dros dro fel hostel, lloches neu wely a brecwast. Gall olygu eu bod yn byw mewn amodau gwael iawn, neu rywle nad yw’n addas ar eu cyfer, neu ar gyfer eu teulu.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James: “Mae nifer o bobol yn meddwl bod digartrefedd yn golygu cysgu allan yn unig – dydy hynny ddim yn wir. Dydy nifer o bobol ifanc sy’n dioddef digartrefedd neu sydd mewn perygl o hynny ddim yn gweld eu hunain fel pobol ddigartref.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw pobol ifanc yn gwybod yn aml ble i droi am gyngor a chymorth – dyna pam rydyn ni’n lansio’r ymgyrch newydd hon.”

Shelter Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Shelter Cymru i ddarparu cyngor a chymorth annibynnol ynghylch tai.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn cysylltu pobol â sefydliadau partner a all ddarparu gwasanaethau cymorth yn seiliedig ar anghenion unigolion.

Dywed Cyfarwyddwr Shelter Cymru, Jon Puzey: “Mae’n wych bod Llywodraeth Cymru yn cymryd hyn mor ddifrifol ac yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobol ifanc. Gyda’r ymgyrch hon ar y cyd rydym yn gwneud yn siŵr bod pobol ifanc yn gwybod bod Shelter Cymru yma i’w helpu.”