Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod “methiant”gweinidogion Cymru i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar drenau, yn “destun embaras” i Lywodraeth Cymru.

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, wedi bod yn cynnal ymchwiliad i amheuaeth o fethiant i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg ar drenau a gorsafoedd.

Mae’r ymchwiliad yn ystyried a yw Llywodraeth Cymru wedi torri’r gyfraith mewn naw gwahanol ffordd wrth beidio â chynnig gwasanaethau Cymraeg ar drenau a gorsafoedd.

Mae’r rhain yn cynnwys cyhoeddiadau sain uniaith Saesneg; tocynnau uniaith; gohebu yn Saesneg yn unig; a gwefan nad oes modd prynu tocynnau drwy’r Gymraeg arni.

Mae’n dilyn cyfres o gwynion a phrotestiadau gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith am y sefyllfa.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: “Rydym wedi cynnal ymchwiliad i amheuaeth o fethiant i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg yn yr achos hwn.  Nid yw’r adroddiad ymchwiliad yn derfynol eto, felly nid yw’n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd.”

“Testun embaras”

Dywedodd David Williams o’r mudiad iaith: “Dylai fod yn destun embaras i Lywodraeth Cymru eu bod wedi methu cadw at eu Safonau cyfreithiol eu hunain.

“Rydyn ni wedi cael llawer o gwynion gan aelodau a chefnogwyr am fethiannau’r gwasanaethau trenau newydd – mae’n hollol amlwg pam bod pobl mor flin am y sefyllfa.”

Cafodd Trafnidiaeth Cymru ei sefydlu yn 2016 fel is-gwmni o dan berchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru. Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cael eu rheoli gan Keolis Amey, sy’n gweithredu Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. Maen nhw wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth trenau yng Nghymru ers mis Hydref 2018.

“Diffygion difrifol”

Ychwanegodd David Williams o Gymdeithas yr Iaith: “Roedd yr holl ddiffygion yma o ran gwasanaethau Cymraeg ar ein trenau yn gwbl ragweladwy, ymhell cyn iddyn nhw gymryd rheolaeth dros y gwasanaeth. Dylen nhw fod wedi cynllunio i gadw at ofynion y gyfraith a datrys unrhyw broblemau flynyddoedd yn ôl.

“Rydyn ni’n pryderu’n fawr am ddiwylliant mewnol Trafnidiaeth Cymru sydd wedi caniatáu i’r sefyllfa hollol annerbyniol yma ddigwydd a pharhau. Mae’n dangos diffygion difrifol o ran paratoi am y fasnachfraint trenau newydd a rhoi blaenoriaeth deg i’r Gymraeg. Yn hynny o beth, rydyn ni’n pryderu am agwedd Trafnidiaeth Cymru at y Gymraeg gan ystyried bod bwriad i’r corff fod yn gyfrifol am ragor o wasanaethau trafnidiaeth yn y wlad.”

Ychwanegodd eu bod wedi cwrdd â Thrafnidiaeth Cymru nifer o weithiau dros y flwyddyn ddiwethaf, a’r Gweinidog Ken Skates yn ddiweddar. “Rydyn ni wedi bod yn glir ein bod ni’n disgwyl i’r methiannau sylfaenol yma gael eu datrys cyn gynted â phosibl.”

“Monitro ymateb Trafnidiaeth Cymru”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni o ddifrif am ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg ac rydyn ni’n disgwyl i sefydliad Trafnidiaeth Cymru weithredu’r un fath.

“Byddwn yn monitro ymateb Trafnidiaeth Cymru yn fanwl, ynghyd â diweddariadau rheolaidd ar gydymffurfiaeth yng nghyswllt y Gymraeg.”