Mae’r Sunday Times yn adrodd na fydd penaethiaid cwmni dur Tata yn derbyn rhagor o golledion sylweddol ar y safle ym Mhort Talbot.

Mae diffyg galw, cystadleuaeth o dramor a chostau cynhyrchu uchel yn rhoi pwysau ar y diwydiant, yn ôl y papur sy’n dweud bod safleoedd Port Talbot a Scunthorpe yn wynebu dyfodol “ansicr”.

Mae Natarajan Chandrasekaran, y pennaeth, yn gwrthod ymrwymo i barhau i gynhyrchu dur yng ngwledydd Prydain yn sgil y sefyllfa bresennol ac mae’n dweud bod angen i’r sefyllfa ym Mhort Talbot fod yn hunangynhaliol.

Cafodd cwmni Corus ei brynu gan Tata am £6.2bn yn 2007 ond daeth cyhoeddiad y llynedd fod 3,000 o swyddi am gael eu torri yn Ewrop.

Mae oddeutu 4,000 o weithwyr wedi’u cyflogi ar safle Port Talbot.

Ond fe wnaeth y cwmni golledion o £371m yng ngwledydd Prydain y llynedd, i fyny o £222m.

“Os nad ydych chi’n perfformio, pwy fydd â diddordeb?” meddai’r pennaeth mewn cyfweliad â’r papur.

“Bydd pawb yn dweud wrthych fod y Tatas wedi mynd y tu hwnt i’r angen i gadw hyn i fynd. Byddai unrhyw un arall wedi cerdded i ffwrdd.”

Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i sicrhau cynhyrchiant dur cynaladwy yng Nghymru,” meddai Russell George, llefarydd economi a thrafnidiaeth y blaid wrth ymateb i’r erthygl.

“Mae yna opsiynau cyffrous y mae cwmnïau’n edrych arnyn nhw, nid yn unig i ehangu ac i helpu i sicrhau cynhyrchiant parhaus ond i helpu’r effaith amgylcheddol sy’n deillio o gynhyrchu dur.”