Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth am fachgen 15 oed sydd ar goll o’r Rhyl.
Does neb wedi gweld Rhys Raymond Bood ers dydd Iau (Ionawr 2).
Ar y pryd, roedd e’n gwisgo top tracwsig Adidas du, trowsus Adidas du, siaced wlannog lwyd a du ac esgidiau rhedeg lliw caramel.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.