Mae tri o bobol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Horseman’s Green ger Wrecsam fore heddiw (dydd Sul, Ionawr 5).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd A525 am 3.29yb, a chafodd tri o bobol eu cludo i’r ysbyty.

Mae dau wedi cael anafiadau difrifol, ac mae’r llall wedi cael anafiadau sy’n peryglu bywyd.

Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio ac yn apelio am wybodaeth am gar BMW X3.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101.