Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddefaid gael eu dwyn o ardal Dinbych.

Maen nhw’n dweud i’r 53 o ddefaid gael eu dwyn o dir ger Gyrfa Golff Trefnant rhwng Rhagfyr 13 a 31.

Mae’r anifeiliaid yn dair a phedair oed, ac mae lle i gredu iddyn nhw gael eu dwyn ar dri achlysur gwahanol.

Mae gan y rhan fwyaf ohonyn nhw dagiau coch yn eu clustiau yn dwyn y rhif UK705644.